Click here to view this page in English / Cliciwch yma i weld y dudalen hon yn Saesneg
Ynglŷn â’r prosiect
Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru (TC) i ddarparu tramffordd newydd o Gaerdydd Canolog i Fae Caerdydd, yn rhan o gam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd. Bydd hyn yn gwella cysylltedd rhwng canol y ddinas a’r Bae, ac o fudd i’r ddinas a’r rhanbarth ehangach.
Mae GRAHAM wedi’i nodi fel y prif gontractwr ar gyfer y gwaith adeiladu hwn.
Caiff cam cyntaf y cynllun ei adeiladu rhwng gorsaf drenau Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Bydd hyn yn sicrhau bod gan Butetown gysylltiad da â chanol y ddinas trwy’r dramffordd newydd, gan gynnig gwell mynediad i drigolion ac ymwelwyr yn y ddinas.
Bydd y cam hwn o’r cynllun yn darparu:
- Gorsaf 2 blatfform newydd ym maes parcio deheuol gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog.
- Tramffordd newydd o’r maes parcio deheuol yng ngorsaf Caerdydd Canolog, yn croesi trwy Sgwâr Callaghan i ymuno â lein bresennol Bae Caerdydd.
- Trydydd platfform ychwanegol yng ngorsaf reilffordd Bae Caerdydd (yn ogystal â’r ail blatfform).
- Gwelliannau i dir cyhoeddus ar y llwybr i gysylltu cymunedau, lleoedd ac atyniadau cyfagos.
Yn y dyfodol, bydd Cledrau Croesi Caerdydd yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas yr holl ffordd i’r dwyrain o’r ddinas gan gysylltu â’r orsaf Parcffordd arfaethedig.
Yr Wybodaeth Ddiweddaraf
Bydd gwaith clirio a galluogi safle yn cychwyn ym mis Mehefin 2026, a bydd adeiladu prif gam y gwaith yn cychwyn ym mis Gorffennaf 2026.
Bydd y newidiadau hyn yn effeithio’n ddifrifol ar lif traffig, yn enwedig yn ystod oriau brig. Dylai gyrwyr ddisgwyl:
- Amseroedd teithio hwy
- Ciwio a thagfeydd ledled yr ardal
- Oedi a allai fod yn sylweddol yn ystod cyfnodau prysur
Cynghorir defnyddwyr ffyrdd yn gryf i:
- Osgoi ardal Sgwâr Callaghan os yn bosib
- Defnyddio llwybrau amgen
- Caniatáu amser ychwanegol ar gyfer teithiau hanfodol
- Ystyried trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio ar gyfer teithiau byrrach
Yr Wybodaeth Ddiweddaraf
Bydd rhan o Stryd Bute ar gau i gerbydau o 7.30pm 24 Gorffennaf am oddeutu 6 wythnos.
Yn ystod y cyfnod hwn:
- Bydd Stryd Bute rhwng Stryd Maria a Stryd Ogleddol yr Eglwys ar gau i draffig
- Bydd Stryd Ogleddol yr Eglwys ond yn hygyrch o Sgwâr Callaghan
- Bydd Stryd Maria ond yn hygyrch o ben deheuol Stryd Bute
- Mae llai o lonydd yn dal i fod ar waith yn Sgwâr Callaghan
- Caniateir mynediad i gerddwyr drwy’r amser
Yn ogystal, o 9pm ddydd Gwener 24 Gorffennaf a 6am ddydd Llun 27 Gorffennaf ni fydd mynediad i gerbydau i Stryd Ogleddol yr Eglwys.
Byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio i breswylwyr a busnesau lleol ddod i siarad â thîm y prosiect am adeiladu’r prosiect. Mae’r sesiwn galw heibio nesaf ar Dydd Iau 23 Gorffennaf 11am-3pm yng Nghanolfan Gymunedol Butetown, Sgwâr Loudoun, Caerdydd, CF10 5UZ
Cofrestru ar gyfer diweddariadau rheolaidd
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd drwy gofrestru ar gyfer diweddariadau e-bost gan GRAHAM yma.
Cynllun Adeiladwyr Ystyriol

Mae GRAHAM yn Aelod Partner o’r Cynllun Adeiladwyr Ystyriol.
Nod y cynllun hwn yw gwella delwedd y diwydiant adeiladu drwy ddilyn Cod Ymarfer Ystyriol, sy’n cynnwys nifer o bethau gan gynnwys diogelwch safle ac ystyried effaith gwaith ar y gymuned leol.
Yma i helpu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ac yn dymuno siarad ag aelod o’r tîm, e-bostiwch;
Harry Knapp, Swyddog Rhanddeiliad ac Ymgysylltu